Cwynodd Mrs A fod y Gymdeithas Tai wedi methu â gwneud gwaith cynnal a chadw ar y rhan gywir o’r ffin rhwng ei heiddo hi ac eiddo’r Gymdeithas Tai gyfagos, a achosodd ddifrod i’w ffens. Cwynodd Mrs A fod rhywfaint o’r gwaith cynnal a chadw a wnaed wedi achosi difrod i’w ffin ac o ganlyniad ddiffyg diogelwch yn ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Tai wedi deall a mynd i’r afael â phryderon Mrs A yn glir, ac achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i gynnal cyfarfod safle i adolygu’r ffin rhwng yr eiddo erbyn 30 Mawrth, darparu adroddiad ysgrifenedig yn manylu ar y gwaith cynnal a chadw y cytunwyd arno o fewn wythnos i’r cyfarfod safle a chwblhau’r gwaith y cytunwyd arno o fewn mis i’r adroddiad.