Cwynodd Ms A nad oedd wedi derbyn ymateb addas i’w chŵyn a gyflwynodd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”). Dywedodd nad oedd y cwestiynau penodol a gododd wedi cael eu hateb yn ddigonol neu o gwbl.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb manwl a chynhwysfawr ynghylch y gofal a dderbyniwyd gan fam Ms A, nad oedd wedi ateb cwestiynau Ms A yn ddigonol. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus, yn dilyn yr ymateb i’r gŵyn, fod y Bwrdd Iechyd wedi dweud wrth Ms A ar 25 Tachwedd 2025 y byddai’n derbyn gohebiaeth ôl-ymateb a oedd yn ateb ei chwestiynau o fewn pythefnos. Ar yr adeg y daethpwyd â’r gŵyn at yr Ombwdsmon (2 Mawrth 2026), nid oedd unrhyw ymateb o’r fath wedi’i dderbyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Bwrdd Iechyd, o fewn pythefnos i gyhoeddi’r llythyr penderfyniad, yn anfon ymateb i Ms A i’r gŵyn a fyddai’n darparu ateb cynhwysfawr i’r 6 chwestiwn a gododd yn ei chŵyn wreiddiol.