Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509922

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch apwyntiad nad oedd wedi cael gwybod amdano.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb fel ymholiad, y gallai fod wedi darparu mwy o wybodaeth i Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, ymddiheuro am yr oedi ac am beidio â chynnwys yr holl wybodaeth ac egluro pam y digwyddodd hyn.