Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509838

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chwyn am ei diweddar fam, a wnaeth hi iddo, ym mis Mehefin 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, darparu ymddiheuriad pellach am y diffyg diweddariadau, cynnig iawndal o £75 i Mrs B a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.