Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202509392

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Cyngor wedi methu â chyhoeddi canlyniad Cam 2
ei chŵyn o fewn amser rhesymol, er gwaethaf cael gwybod bod ei ymchwiliad wedi’i gwblhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod hyn yn gadael Miss A gyda chwestiynau
heb eu hateb am ganlyniad ei chŵyn a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi llythyr ymateb Cam 2 i Miss A o fewn 4 wythnos.