Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509144

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w gŵyn am y driniaeth a’r gofal a gafodd ei dad.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd 9 mis yn ôl ac nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w gŵyn eto. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi cwestiynau heb eu hateb i Mr A a’i deulu a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb llawn i’w gŵyn i Mr A, sy’n cynnwys egluro’r rhesymau ac ymddiheuro am yr oedi o fewn 4 wythnos.