Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a’i fod wedi methu â’i ddiweddaru.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr A a’i fod wedi methu â’i ddiweddaru. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad ac esboniad o fewn 3 wythnos, cyhoeddi ei ymateb a chynnig iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi a’r diffyg diweddariadau.