Dyddiad yr Adroddiad

27/03/2026

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Wales & West

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202509039

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A ar ran ei mam, Ms B, am sŵn a dirgryniad yr oedd yn ei brofi yn ei fflat gyda Chymdeithas Tai Wales & West.

Canfu’r Ombwdsmon, pan gwynodd Ms B i’r Gymdeithas Tai am y sŵn a’r dirgryniad, nad oedd wedi’i gofnodi ac na ddarparwyd ymateb penodol i’r gŵyn yn unol â’i gweithdrefn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Ms B ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.