Cwynodd Mrs A ei bod wedi bod yn aros am lawdriniaeth ers 2023 ac
nad yw’r Bwrdd Iechyd yn ei helpu ac yn gohirio ei llawdriniaeth.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn
yn brin o fanylion ac esboniad gan nad oedd yn cydymffurfio â gweithdrefn “Gweithio i Wella” y GIG. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi gadael Mrs A gyda chwestiynau heb eu hateb am ei llawdriniaeth a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i
gyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn 6 wythnos, gan fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan Mrs A.