Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w gŵyn am yr amser y mae wedi bod yn aros i gael llawdriniaeth a pham ei fod wedi’i dynnu oddi ar y rhestr flaenoriaethau.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi bod mewn cysylltiad â Mr B, ei fod wedi methu â chofnodi ei bryderon o dan y weithdrefn pryderon Gweithio i Wella (“PTR”). Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr B gydag ymddiheuriad am yr amryfusedd a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn Gweithio i Wella o fewn 6 wythnos.