Cwynodd Ms A am adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe a’i rhyngweithiadau â hi ynghylch ei phlant. Roedd Ms A yn anfodlon ag ymateb y Cyngor i’w chŵyn Cam 2. Cododd bryderon ynghylch adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol, yr oedd y Cyngor wedi gwrthod ei ystyried.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad Cam 2 annibynnol trylwyr a chynhwysfawr wedi’i gynnal i gŵyn Ms A, a oedd yn mynd i’r afael â’i phryderon yn fras. Fodd bynnag, roedd rhai agweddau ar adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol nad oeddent wedi’u tystiolaethu’n ddigonol, ac nid oedd dogfennau gofynnol wedi’u darparu i Ms A. Nid oedd y Cyngor wedi ystyried nac wedi ymateb i bryderon Ms A ynghylch yr adroddiad. Profodd Ms A anghyfleustra gan weithredoedd y Cyngor ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd iddi. Cytunodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor i ystyried gohebiaeth Ms A a’r materion y dywedodd eu bod yn anghywir yn ffeithiol yn Adroddiad yr Ymchwiliad Cam 2 o fewn 4 wythnos. Cytunodd ymhellach i roi ymateb ysgrifenedig iddi, gan fynd i’r afael â’r materion a gynhwyswyd yn ei gohebiaeth i’r Cyngor a’i chŵyn i’r Ombwdsmon, o fewn 8 wythnos.