Cwynodd Mr A am weithredoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Ymchwiliodd y Cyngor i bryderon Mr A o dan ei bolisi cwynion corfforaethol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fod wedi ymchwilio i gŵyn Mr A yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 a pholisïau’r Cyngor ei hun. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mr A o fewn pythefnos i ymddiheuro nad oedd wedi ymchwilio’n gywir i’w bryderon yn y lle cyntaf, a chytuno i ailystyried y pryderon a gododd yn ei gyflwyniad.