Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gwrthod ymchwilio i’w chŵyn heb ganiatâd ei mab. Dywedodd Mrs A hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r pryderon yn ymwneud â’i phrofiad ei hun, nad oedd angen caniatâd ei mab ar eu cyfer.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anwybyddu darparu ymateb i’r pryderon nad oedd angen caniatâd mab Mrs A ar eu cyfer. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad am yr amryfusedd a darparu ymateb i’r gŵyn i’r pryderon nad oes angen caniatâd mab Mrs A ar eu cyfer.