Dyddiad yr Adroddiad

26/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202506775

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am ganlyniad dwy lawdriniaeth ar ei thraed ym mis Mawrth a mis Mehefin 2023, a rheolaeth gyffredinol ei gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cydnabu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd roi ei ymateb i Mrs A a’i fod wedi methu â’i diweddaru’n briodol. Roedd gan Mrs A bryderon heb eu datrys nad oeddent wedi cael sylw, gan gynnwys ei chred bod cofnodion claf arall wedi’u rhoi ar ei ffeil. Nododd yr Ombwdsmon hefyd nifer o gamgymeriadau yn yr ymateb.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 4 wythnos, gynnig taliad o £250 i Mrs A am yr oedi wrth ymdrin â chwynion, ymddiheuro am y gwallau a nodwyd a rhoi nodyn ar ffeil y cwynion i gywiro’r rhain, a chysylltu â Mrs A i drafod ei phryder ynghylch ei chofnodion. Yna o fewn 8 wythnos, i ymchwilio a rhoi ymateb pellach i Mrs A ar y materion heb eu datrys.