Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202506711

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddo gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer ei wahanol gyflyrau iechyd. Cwynodd Mr A hefyd am y Bwrdd Iechyd yn torri dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth Mr A ym mis Mai 2025 a phan gododd bryderon pellach, ni chawsant eu cydnabod na’u hateb fel cwyn. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chynnig yr Ombwdsmon i ddarparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn a wnaeth Mr A ym mis Mai 2025 o fewn 4 wythnos, ac i ymddiheuro am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu cydnabyddiaeth ysgrifenedig o bryderon pellach Mr A o fewn 1 wythnos ac i wneud pob ymdrech resymol i gytuno ar baramedrau’r gŵyn bellach gyda Mr A o fewn 4 wythnos ac i ddarparu cadarnhad ysgrifenedig y bydd yn ymateb i’r gŵyn y cytunwyd arni o dan Gweithio i Wella.