Dyddiad yr Adroddiad

12/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ceisiadau / dyraniadau / trosglwyddo / cyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202506380

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr B am y ffordd yr ymatebodd Cyngor Caerdydd i gais am ailgartrefu a wnaeth ym mis Tachwedd 2024. Canfu’r Ombwdsmon ddiffygion yn safon cadw cofnodion y Cyngor. Roedd hyn yn cynnwys dogfennu anghyson o sgyrsiau ffôn a’r rhesymau dros benderfyniadau a wnaed yn ymwneud â chais Mr B. Achosodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B am y methiannau hyn o fewn 1 mis, ac i atgoffa swyddogion perthnasol o bwysigrwydd cynnal cofnodion cywir wrth ddelio â dyraniadau tai.