Dyddiad yr Adroddiad

17/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202504695

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi dilyn canllawiau priodol wrth wneud ei benderfyniad i beidio â symud hawliad Gofal Iechyd Parhaus (“CHC”) ôl-weithredol ymlaen i Banel Adolygu Annibynnol.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu, er bod y Bwrdd Iechyd wedi dilyn gofynion Fframwaith Cenedlaethol y CHC yn fras, fod rhesymeg y Cadeirydd Annibynnol dros beidio â symud i Banel Adolygu Annibynnol yn gyffredinol, ac nad oedd yn mynd i’r afael yn benodol â phryderon a godwyd. Ni wnaeth y Cadeirydd Annibynnol fynd i’r afael â phryder dilys ynghylch dyddiad cymhwysedd y CHC.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 1 mis, gyfeirio’r achos at Gadeirydd Annibynnol gwahanol i ailystyried a oes angen Panel Adolygu Annibynnol, gyda’r Cadeirydd Annibynnol newydd yn mynd i’r afael â’r pwynt penodol ynghylch dyddiad cymhwysedd y CHC. Hefyd, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb i’r Bwrdd Iechyd gadarnhau y byddai rhesymeg benodol i’r achos yn cyd-fynd â phob penderfyniad gan y Cadeirydd Annibynnol yn y dyfodol, ac y byddai tystiolaeth o’r broses hon yn cael ei darparu o fewn 2 fis.