Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202503510

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D am safon y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam, Mrs E, gan y Feddygfa. Cwynodd Ms D, yn dilyn ymweliad cartref ym mis Ebrill 2025, nad oedd y Meddyg Teulu wedi trefnu i Mrs E gael ei derbyn i’r ysbyty.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon yr asesiad clinigol o Mrs E yn ystod yr ymweliad cartref, a’r camau a gymerwyd o ganlyniad i’r asesiad hwnnw, gan gynnwys y penderfyniad i beidio â threfnu i Mrs E gael ei derbyn i’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr asesiad clinigol o Mrs E yn ystod yr ymweliad cartref yn briodol. Fodd bynnag, dylai’r cofnodi o’r canfyddiadau clinigol fod wedi bod yn fwy manwl. Felly, cadarnhawyd yr agwedd hon o’r gŵyn yn rhannol, wedi’i chyfyngu i’r cadw cofnodion cysylltiedig. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y penderfyniad i beidio â threfnu derbyniad brys i’r ysbyty i Mrs E yn afresymol nac y tu allan i arfer clinigol derbyniol. Ni chadarnhawyd yr agwedd hon o’r gŵyn.