Dyddiad yr Adroddiad

18/03/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202502494

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd Mrs B yn bryderus, er gwaethaf i’w gŵr, Mr B, brofi poen sylweddol yn ei abdomen a’i asennau yn 2024, fod clinigwyr yn y Feddygfa wedi methu arwyddion o symptomau canser yr ysgyfaint, gan arwain at oedi wrth wneud diagnosis o’i ganser. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar a oedd clinigwyr yn y Feddygfa wedi gweithredu’n briodol pan gyflwynodd Mr B boen yn ei abdomen a’i asennau rhwng Gorffennaf ac Awst 2024.

Canfu’r ymchwiliad, ym mhob un o’r ymgynghoriadau rhwng Gorffennaf ac Awst 2024, fod yr archwiliadau, y diagnosisau posibl, y driniaeth a’r gweithredoedd gan y clinigwyr o fewn yr ystod o arfer clinigol derbyniol. Nid oedd unrhyw arwydd y dylid bod wedi atgyfeirio Mr B am belydr-X o’r frest am amheuaeth bosibl o ganser yr ysgyfaint cyn diwedd mis Awst. Canfu’r ymchwiliad hefyd, er bod clinigwyr wedi ystyried hanes Mr B o ganser y prostad yn briodol, gan gynnwys darlleniad PSA arferol ym mis Mai 2024, nad canser y prostad oedd achos canser ysgyfaint Mr B. Ni chadarnhawyd y gŵyn.