Dyddiad yr Adroddiad

17/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500376

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal niwroleg a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hyn yn cynnwys gofal a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr ar ran y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:

a) a oedd y Bwrdd Iechyd wedi asesu a thrin achos cryndod Mrs A yn ddigonol, gan ystyried rhyngweithiadau posibl â meddyginiaethau a ragnodwyd

b) a oedd Mrs A wedi cael cyngor amhriodol bod ganddi gyflwr anwelladwy a fyddai’n ei hatal rhag parhau i ymarfer deintyddiaeth.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y posibilrwydd bod cryndod Mrs A wedi gwaethygu gan feddyginiaeth a ragnodwyd wedi’i ystyried na’i drafod gyda hi. Dylid bod wedi trafod hyn gyda hi hyd yn oed os ystyriwyd bod achosion eraill yn llawer mwy tebygol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad fod y cyngor a roddwyd am allu Mrs A i weithio yn rhesymol. Yn unol â hynny, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A a gwneud taliad iawndal ariannol o £1,750 iddi. Roedd hyn yn cynnwys £750 mewn perthynas â’r anghyfleustra a’r gofid y gellid eu hosgoi o fyw gyda’r cryndod am 15 mis ychwanegol. Roedd hefyd yn cynnwys £1,000 i adlewyrchu effaith bosibl sylweddol iawn colli’r cyfle i gael canlyniad gwahanol i drafodaethau am ymddeoliad cynnar Mrs A. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r clinigwyr a oedd yn ymwneud â gofal Mrs A o bwysigrwydd trafod rhyngweithiadau meddyginiaeth a allai fod yn berthnasol gyda chleifion cyn gynted â phosibl, a dogfennu’n glir yr ystyriaeth o ryngweithiadau meddyginiaeth yn nodiadau’r claf.