Dyddiad yr Adroddiad

18/03/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500190

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am safon y gofal a ddarparwyd i’w diweddar dad, Mr B, pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty ym mis Chwefror 2024 oherwydd problemau llyncu. Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a ddarparwyd gofal meddygol ac ymyriadau priodol mewn modd amserol yn ystod arhosiad Mr B fel claf mewnol ar ward ENT.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal meddygol, a’r ymchwiliadau a’r gweithdrefnau Gastroenteroleg a gynhaliwyd, i gyd yn rhesymol i fynd i’r afael â chyflwyniad clinigol a symptomau Mr B. Bu oedi yn yr adolygiad Gastroenteroleg cychwynnol, a’r trosglwyddiad dilynol i ward Gastroenteroleg. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd hyn yn effeithio ar reolaeth feddygol Mr B, yr opsiynau triniaeth a oedd ar gael iddo, na chanlyniad y driniaeth honno. Felly ni chadarnhawyd y gŵyn.