Cwynodd Ms T ynglŷn â sut yr ymatebodd y Cyngor iddi ynghylch problemau gyda throsglwyddo sŵn ac atgyweiriadau oedd eu hangen yn ei fflat, yn ogystal â’i cheisiadau am addasiadau rhesymol mewn cyfathrebu.
Ar y cyfan, ymatebodd y Cyngor yn sensitif ac yn gymesur i gwynion Ms T am drosglwyddo sŵn o fewn cyfyngiadau’r hyn yr oedd yn gallu ei wneud. Ni chadarnhawyd yr elfen hon o gŵyn Ms T.
Er bod nifer o ffactorau’n effeithio ar y prosesau atgyweirio, cyfrannodd diffyg dilyniant rhagweithiol a chyfathrebu gwael ar ran y Cyngor at oedi hir wrth archwilio ac ymdrin ag atgyweiriadau. Cadarnhawyd cwynion Ms T na chafodd ei hatgyweiriadau eu datrys o fewn amserlen resymol.
Cytunodd y Cyngor i gyfathrebu â Ms T trwy e-bost “yn bennaf” ac, i raddau helaeth, glynu wrth y cytundeb hwn. Fodd bynnag, methodd ag ystyried anghenion cyfathrebu Ms T yng nghyd-destun ei alluoedd gweithredol ac er y gwnaed cytundeb anffurfiol i swyddog tai a neilltuwyd i Ms T weithredu fel cyswllt cyfathrebu, nid oedd yr arfer hwn bob amser yn llwyddiannus ac nid oedd unrhyw gynllun wrth gefn ar waith ar gyfer adegau pan nad oedd y swyddog tai ar gael. Nid oedd chwaith o gymorth i reoli disgwyliadau Ms T ynghylch yr hyn oedd yn bosibl, o ran trefnu apwyntiadau cyfleus, nac i sefydlu lefel gyson o wasanaeth. Felly, cadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn hefyd.
Roedd y Cyngor eisoes yn y broses o adolygu a datblygu ei Bolisi Atgyweirio, gan archwilio opsiynau ar gyfer system TG newydd a allai fodloni holl ofynion y system. Cytunodd y Cyngor hefyd i ymddiheuro i Ms T a chynnig £500 iddi i gydnabod y methiannau a nodwyd. Cytunodd i gysylltu â Ms T i drafod ei hanghenion cyfathrebu, i gadarnhau unrhyw addasiadau i’w chefnogi, ac i sicrhau bod unrhyw addasiadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cofnodi’n glir a’u rhannu â Ms T a staff perthnasol. Cytunodd hefyd i atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd rhoi gwybod i denantiaid yn brydlon os caiff gwaith atgyweirio ei atal neu ei ohirio am unrhyw reswm.