Canolbwyntiodd yr ymchwiliad yn unig ar a ddylai ymgynghoriadau Mr A â chlinigwyr y Feddygfa rhwng Gorffennaf 2023 a Chwefror 2024 fod wedi arwain yn rhesymol at ei atgyfeirio i ofal eilaidd ar gyfer ymchwiliadau.
Canfu’r ymchwiliad, ym mhob ymgynghoriad hyd at ac yn cynnwys 27 Rhagfyr 2023, fod diagnosisau, triniaeth a gweithredoedd y clinigwyr o fewn yr ystod o arfer derbyniol. Yn ogystal, roedd atgyfeiriadau a wnaed rhwng Awst 2023 ac Ionawr 2024 yn briodol yn glinigol (prawf spirometreg a 2 belydr-X o’r frest); nid oedd unrhyw arwydd bod angen atgyfeiriadau gofal eilaidd pellach cyn yr amser hwn.
Er bod y diagnosis a’r driniaeth yn yr ymgynghoriad ar 27 Rhagfyr 2023 yn briodol yn glinigol, dylai Mr A fod wedi cael cyngor rhwyd ddiogelwch (cyngor i geisio gofal meddygol os yw’r symptomau’n gwaethygu neu’n ddi-ddatrys) oherwydd ei gyflwr. Roedd hyn yn ddiffyg. Yn ogystal, gwelsom fod y camau gweithredu yn yr ymgynghoriadau ar 30 Ionawr a 6 Chwefror 2024 o bosibl wedi bod o fewn terfynau arfer clinigol derbyniol, neu ddim wedi bod, mewn perthynas ag adroddiadau o besychu gwaed, naill ai oherwydd na chafodd hyn ei archwilio’n ddigonol, neu o gwbl. Fodd bynnag, erbyn 19 Chwefror roedd cyfle i gyfeirio Mr A at ofal eilaidd gydag amheuaeth o ganser ac roedd peidio â gwneud hynny yn gyfystyr â methiant gwasanaeth. Wedi dweud hynny, ni fyddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth i’w brognosis na’i driniaeth a gynlluniwyd. Ar y sail hon, ni chadarnhawyd y gŵyn.