Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn Mr C ynghylch a oedd ei daid, Mr A, wedi cael ei reoli a’i drin yn briodol pan gafodd ei dderbyn i Ysbyty Glan Clwyd rhwng 11 a 20 Rhagfyr 2024. Yn benodol, ystyriodd a oedd anghenion maethol Mr A wedi’u diwallu yn ystod y cyfnod hwn. Edrychodd yr ymchwiliad hefyd ar bryderon Mr C ynghylch delio â chwynion.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod Mr A wedi cael ei reoli’n briodol yn gyffredinol a bod ei anghenion maethol wedi’u diwallu’n ddigonol. Fodd bynnag, nododd yr ymchwiliad fod yr arsylwadau niwrolegol a gafodd Mr A yn dilyn cwymp na welwyd ar 13 Rhagfyr yn annigonol. Er gwaethaf hyn, nid oedd yn ymddangos bod unrhyw effaith andwyol ar Mr A, ac roedd yr arsylwadau yn unol â pholisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Canfu’r ymchwiliad nad oedd gwybodaeth am gwymp ddiweddarach a gafodd Mr A tra yn yr Adran Achosion Brys wedi’i chyfleu i deulu Mr A na’i chofnodi yn ei gofnodion meddygol neu nyrsio. Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd cadw cofnodion yn cyrraedd y safonau proffesiynol disgwyliedig. Dim ond i’r graddau cyfyngedig hyn y cadarnhawyd cwyn Mr C.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn mor gyflawn ag y gallai fod wedi bod, gan na chafodd y diffygion cyfathrebu a dogfennu yn ymwneud ag ail gwymp Mr A eu datrys. Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y diffygion gweinyddol ynghylch trin cwynion yn golygu bod cyfleoedd wedi’u colli i’r Bwrdd Iechyd ddysgu gwersi, ac fe achosodd anghyfiawnder i Mr C hefyd gan fod yn rhaid iddo gwyno ymhellach er mwyn cael atebion. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Mr C.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mr C; ac er mwyn hwyluso dysgu, rhannu’r adroddiad gyda staff a oedd yn ymwneud â gofal Mr A a’r Bwrdd Iechyd yn ystyried a ddylid diweddaru ei bolisi cwympiadau i roi eglurder ychwanegol ynghylch rheoli cwympiadau heb dyst iddynt, yn ogystal â mynd i’r afael â mater cyfathrebu â pherthnasau ynghylch cwympiadau.