Cwynodd Mrs A nad oedd Cyngor Abertawe wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddi.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cofnodi’r gŵyn ym mis Ebrill 2025 ac wedi cyflenwi nodiadau trafod i Mrs A, nid oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnig ymddiheuriad i Mrs A am yr amryfusedd o beidio ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn, o fewn 4 wythnos, ac egluro pam fod hyn wedi digwydd, cyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn a chynnig iawndal o £100 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth.