Dyddiad yr Adroddiad

13/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202509318

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd roedd Cyngor Caerdydd wedi delio â phryderon am faterion parcio a gorfodaeth. Cwynodd Mr A i’r Cyngor am gamddefnydd mynych o’r briffordd a’r palmant y tu allan i’w gartref, ond ni chafodd ymateb i’w gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr A. Roedd methiant y Cyngor i ymateb wedi bod yn anghyfleustra i Mr A, ac mi oedd hyn wedi achosi straen, ansicrwydd a rhwystredigaeth iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig i gwynion Mr A, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am y methiant i roi sylw i’w bryderon.