Cwynodd Dr B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd ganddi ym mis Ebrill 2025, am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar frawd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Dr B, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac i roi eglurhad i Dr B am yr oedi, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a chynnig talu iawndal o £150 i gydnabod yr oedi a brofwyd ganddi.