Dyddiad yr Adroddiad

12/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509050

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyfathrebu’n briodol ag ef a’i deulu yn ystod oriau olaf bywyd ei frawd, nac ar ôl marwolaeth ei frawd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw i holl bryderon Mr C yn ei ymateb i’w gŵyn. Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig cwrdd â Mr C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mr C o fewn dwy wythnos i gytuno a oedd am ymateb i’r pryderon sy’n weddill mewn cyfarfod neu’n ysgrifenedig, ac i baratoi ymateb o fewn pedair wythnos i’r cytundeb.