Cwynodd Mr B nad oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymateb i’w gŵyn am arian a gafodd ei ddebydu o gyfrif ei wraig.
Canfu’r Ombwdsmon er bod y Cyngor wedi ymateb i Mr B, nid oedd wedi cofnodi cwyn ffurfiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr B yn ymddiheuro am yr amryfusedd ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 2 o wythnos.