Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2026

Achos yn Erbyn

Llywodraethu Cymru - Nest

Pwnc

Amrywiol Eraill

Cyfeirnod Achos

202508841

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Miss A yn anfodlon am nad oedd Cynllun Nyth Llywodraeth Cymru wedi cofrestru ei boeler pan gafodd ei osod. Bu’n rhaid i Miss A fynd ar eu hôl i gael ymateb i’w negeseuon e-bost, a dywedodd nad oedd ei galwadau ffôn yn cael eu dychwelyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi afresymol wedi bod cyn ymateb i ohebiaeth Miss A, ac na fu ymchwiliad i’w phryderon nac ymateb iddynt fel cwyn ffurfiol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Llywodraeth Cymru y byddai, o fewn 2 wythnos, yn ymddiheuro i Miss A, ac yn ymchwilio i’w phryderon, gan gywiro unrhyw faterion a amlygwyd.