Cwynodd Mr A nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gŵyn a wnaed ganddo yn Chwefror 2025 ynglŷn ag anaf i’w ben.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn derfynol i gŵyn Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad..
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i baratoi ymateb terfynol i’r gŵyn a fydd yn cynnwys ymddiheuriad ac eglurhad am yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.