Dyddiad yr Adroddiad

26/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cyfeirnod Achos

202508603

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi gofyn cwestiynau amhriodol iddi hi a’i mab fel rhan o asesiad ADHD, a bod hynny wedi achosi trallod diangen iddynt.
Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod y pryder a achoswyd iddynt gan y cwestiynau, ond penderfynodd fod y defnydd o’r holiaduron yn cyd-fynd â Chanllawiau Cenedlaethol a’u bod wedi cael eu defnyddio’n briodol. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod gwallau yn yr ymateb i’r cwynion, a oedd wedi awgrymu ar gam fod Mrs C wedi gofyn i’w mab gwblhau’r ffurflen anghywir. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs C o fewn 4 wythnos i ymddiheuro am yr wybodaeth anghywir yn yr ymateb i’r gŵyn, ac am awgrymu fod Mrs C wedi gwneud camgymeriad, pan nad oedd hynny’n wir.