Dyddiad yr Adroddiad

19/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202508541

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi ymateb i gŵyn a wnaed ganddi yn ymwneud â chau ffordd am 4 blynedd am fod wal wedi cwympo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi colli’r gŵyn ffurfiol a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms A o fewn un wythnos i ymddiheuro am golli’r gŵyn ffurfiol. Cytunodd hefyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn pedair wythnos.