Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2026

Achos yn Erbyn

Grŵp Codi

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202508539

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am waith a wnaed yn ei gartref gan gontractwr ar ran Grŵp Codi (“y Corff”).

Nododd yr Ombwdsmon er bod Mr A wedi cwyno i’r Corff, y contractwr oedd wedi ymateb. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus na chafwyd ymateb ffurfiol gan y Corff.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i ymddiheuro i Mr A am beidio ymateb, ac i ddelio â chwmpas ei bryderon, o fewn 2 wythnos. Yna, o fewn 6 wythnos, dylai ymateb yn uniongyrchol i Mr A o dan ei weithdrefn gwyno.