Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd ganddi fis Gorffennaf 2025.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn Mrs A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r gŵyn, i ymddiheuro am yr oedi ac egluro pan yr oedd hyn wedi digwydd, o fewn 4 wythnos.