Dyddiad yr Adroddiad

23/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202508409

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi ymateb i’r cwynion a gyflwynwyd ganddo ym mis Hydref 2025.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i ohebiaeth wreiddiol Mr A; fodd bynnag nid oedd wedi ymateb i’r ail gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr oedi ac egluro’r rhesymau am hynny, o fewn 4 wythnos, a chynnig iawndal o £150 am yr oedi ac i gydnabod ei amser a’i drafferth.