Dyddiad yr Adroddiad

20/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202508199

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn yn ymdrin â’r holl bwyntiau a godwyd ganddi, nad oedd yn cynnwys manylder nac eglurhad nac yn ei hysbysu o gamau nesaf ei thriniaeth.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yr ymateb i’r gŵyn yn ddigon manwl. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi gadael Ms A â llawer o gwestiynau heb eu hateb, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n cyhoeddi ymateb arall i’w chŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith a fyddai’n rhoi sylw i’r pwyntiau a godwyd gan Ms A ac yn eu hegluro’n fanylach.