Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202508023

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn a gyflwynwyd ganddi dros 6 mis yn ôl a bod hyn wedi effeithio ar ei hanghenion iechyd ers hynny.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’r gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad ffurfiol.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig eglurhad ac ymddiheuriad i Mrs A am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.