Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi rhoi sylw i’r pryderon a fynegwyd ganddo ynglŷn â chasglu ei fin ailgylchu gwydr.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn, nid oedd wedi rhoi eglurhad i Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 2 o wythnos, yn ysgrifennu at Mr A i roi sicrwydd iddo ac yn disgrifio’r camau mae’r Cyngor yn eu cymryd i fonitro’r sefyllfa.