Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi gwrthod trefnu cyfarfod â hi yn dilyn ei ymateb i’w chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod cyfarfod er ei fod wedi cynnig cwrdd â Mrs A os nad oedd ei ymateb i’w chŵyn yn foddhaol iddi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ailystyried ei benderfyniad ac i gwrdd â Mrs A i drefnu cyfarfod o fewn 8 wythnos.