Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb yn llawn i’r gŵyn am y gofal a ddarparwyd i’w ddiweddar fam.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi rhoi sylw digonol i’r pryderon a fynegwyd gan Mr A yn ei gŵyn. Roedd hyn yn cyfrif fel camweinyddu a oedd wedi achosi anghyfiawnder i Mr A.
Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am fethu â rhoi sylw digonol i’w bryderon ac i gyhoeddi ymateb pellach i’w gŵyn a oedd yn ymdrech i gywiro hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.