Cwynodd Ms B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi’r ymateb terfynol yr oedd wedi cytuno ei ddarparu ar ôl i Ms B godi rhagor o bryderon a chwestiynau.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno ym mis Gorffennaf 2025 i gyhoeddi ymateb arall a chynnwys amserlen a ragwelid; fodd bynnag, ni chafwyd yr ymateb terfynol hwn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms B a’i fod wedi penderfynu setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb terfynol, o fewn 20 o wythnos, i ymddiheuro am yr oedi sylweddol ac egluro pan yr oedd hyn wedi digwydd, a chynnig iawndal o £200 i gydnabod yr oedi a fu.