Dyddiad yr Adroddiad

16/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202507124

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am benderfyniad y Cyngor i wrthod ei gais am gludiant anghenion dysgu ychwanegol (“ADN”) ôl-16 oed ar gyfer ei ferch.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y meini prawf cymhwysedd a ddefnyddiwyd gan y Cyngor ar gael i’r cyhoedd ar adeg y cais, ac ni oedd wedi’u cynnwys o fewn ei bolisi. Roedd o’r farn hefyd nad oedd y Cyngor wedi gwneud gwir asesiad o ferch Mr A, a’i fod wedi cyfyngu ei ddisgresiwn drwy gymhwyso’r maen prawf hwn.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud asesiad llawn o amgylchiadau merch Mr A, o fewn 4 wythnos, ac i ailystyried y cais, ac i adolygu ei feini prawf cymhwysedd. Hefyd, o fewn 8 o wythnos, i gynnal adolygiad o bob cais a wnaed yn y 12 mis diwethaf i ganfod unrhyw benderfyniadau lle cafodd yr un meini prawf eu cymhwyso, a chytuno i ailystyried unrhyw geisiadau a amlygwyd.