Dyddiad yr Adroddiad

24/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202506190

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Mrs A yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i bryderon Mrs A, nid oedd yn derbyn bod yr ymateb i’r gŵyn wedi rhoi sylw digonol i’r materion dan sylw. Roedd gweithredoedd y Bwrdd Iechyd wedi achosi anhwylustod i Mrs A ac mi oedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Mrs A, o fewn 4 wythnos, i drefnu cyfarfod, rhwng Mrs A a staff perthnasol i drafod y pryderon sydd heb eu datrys ac i ymateb ymhellach i’r gŵyn o fewn 16 wythnos.