Dyddiad yr Adroddiad

24/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505296

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dilyn colposgopi yn Ionawr 2025. Nid oedd y canlyniadau ar gael am 10 wythnos, ac arweiniodd hynny at oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth am ganser serfigol. Cwynodd Mrs A hefyd ei bod wedi cael ei rhyddhau o’r blaen yn 2021, gydag adalw 3 blynedd, a mynegodd bryderon am fiopsi a samplo.

Canfu’r Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i bryderon Mrs A, nid oedd wedi cael ymateb digonol i’w chŵyn wreiddiol nac i’r materion a godwyd wedi hynny. Roedd gweithredoedd y Bwrdd Iechyd wedi anhwyluso Mrs A, ac mi oedd hynny wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 6 o wythnos, yn ailystyried cwyn Mr A ac yn ymateb yn llawnach i’w chŵyn, gan roi sylw i’r materion ychwanegol a godwyd â’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon.