Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202502139

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymryd camau priodol mewn ymateb i bryderon diogelu roedd wedi’u codi ar ran ei berthynas, Mr A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi delio â chwynion Mr C yn unol â’i weithdrefnau. Nid oedd y Cyngor wedi rhoi ystyriaeth briodol i ddymuniad Mr A y byddai Mr C yn gweithredu ar ei ran, na’i farn ar y gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i rannu canlyniad ei hystyriaethau â’r tîm cwynion, i hybu dealltwriaeth o ran cydsyniad. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi adborth i Wasanaethau Cymdeithasol i sicrhau eu bod yn holi mewn ffordd briodol i ganfod dymuniadau defnyddwyr gwasanaeth.