Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202405924

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd i ganfod a oedd ei thad, Mr D, yn gymwys i gael arian Gofal Iechyd Parhaus (“CHC”) y GIG. Roedd gan Mr D anghenion gofal sylweddol a phenodol oherwydd ei ddementia dechreuad cynnar.

Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i ganfod a oedd:

a) y broses a ddilynwyd gan y Bwrdd Iechyd i asesu cymhwysedd Mr D i gael arian CHC yn cyd-fynd â’r Fframwaith Cenedlaethol
b) y Bwrdd Iechyd wedi rhoi sylw priodol i fater cymhwysedd yr arian CHC i Mr D yn ei ymateb i’r gŵyn
c) ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn amserol a rhesymol.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn y broses i benderfynu ar gymhwysedd Mr D i gael CHC yn unol â’r Fframwaith Cenedlaethol. Roedd hyn yn cyfrif fel camweinyddu. Yn dilyn cwynion gan MS Mr D a Ms C, roedd y camau cywiro a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd yn annigonol. Nid oedd ei reswm am y sefyllfa bresennol o ran ariannu’n eglur, ac nid oedd wedi rhoi sylw priodol i oblygiadau ariannol posibl y camweinyddu i Mr D a oedd yn mynd yn ôl i’r adeg pan gafodd ei ryddhau o’r ysbyty. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon bob un o 3 rhan y gŵyn.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys:

• ymddiheuro i Ms C
• sicrhau ei fod yn awr wedi gwneud penderfyniad cymhwysedd am CHC yn unol â’r Fframwaith
• cynnal adolygiad ôl-weithredol o gymhwysedd Mr D i gael CHC am yr holl gyfnod yn dyddio’n ôl i’w ryddhau o’r ysbyty
• adolygu ei broses datrys anghydfodau (â’r Cyngor)
• trefnu adolygiad ar y cyd (â’r Cyngor) i ganfod gwelliannau yn deillio o’r diffygion a amlygwyd yn yr achos hwn.