Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Clun a Melin-cwrt

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202400842

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Clun a Melin-cwrt (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

Honnwyd bod yr Aelod wedi methu cyflawni’i ddyletswydd i gynnal y gyfraith, a hynny drwy gael gwared ar reiliau diogelwch i gerddwyr heb ganiatâd penodol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”). Drwy wneud hynny, honnwyd ei fod wedi creu risg i iechyd a diogelwch y gymuned leol.

Dechreuodd Swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 6(1)(a) (dwyn anfri) a 7(a) (camddefnyddio swydd) o’r Cod.  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned, y Cyngor a Heddlu De Cymru (“yr Heddlu”).  Rhoddwyd sylwadau a chopïau o negeseuon a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol perthnasol gan yr Achwynydd a thyst.  Rhoddodd yr Aelod sylwadau yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned ar adeg y digwyddiadau a’i fod wedi mynd ati o’i ben a’i bastwn ei hun (heb drafod â’r Cyngor Cymuned na’r Cyngor) i dynnu’r rheiliau oddi yno oherwydd ei bryderon am ddiogelwch y gymuned.  Ar ôl i’r Cyngor ymyrryd, cafodd y rheiliau eu dychwelyd a’u hailosod yn gyflym, ymddiheurodd yr Aelod a rhoi ad-daliad i’r Cyngor am y costau cysylltiedig, ac ni chymerodd y Cyngor unrhyw gamau cyfreithiol dilynol.  Ymchwiliodd yr Heddlu i’r mater ac yn y pen draw penderfynodd na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

Canfu’r Ombwdsmon fod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu ei fod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.  Gan fod yr Aelod wedi gweithredu o’i ben a’i bastwn ei hun ar y pryd, yn ddiarwybod i’r Cyngor Cymuned, canfu’r Ombwdsmon nad oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod paragraff 7(a) wedi’i dorri.

Casgliad yr Ombwdsmon oedd y gallai ymddygiad yr Aelod awgrymu bod hwn yn achos o ddwyn anfri. Serch hynny, gellid ystyried bod ffactorau lliniaru’n berthnasol yma, gan gynnwys yr eglurhad bod yr Aelod wedi gweithredu o’i ben a’i bastwn ei hun, ei fod wedi cydnabod y camymddwyn, ei fod yn edifar ac wedi ymddiheuro, ei fod wedi cydnabod ei weithredoedd ac wedi cydweithredu i wneud iawn am y sefyllfa, a’r ffaith nad arweiniodd ymchwiliad yr Heddlu at ganlyniadau pellach. Gan hynny, hyd yn oed os byddai gwrandawiad yn penderfynu bod y Cod wedi’i dorri, efallai na fyddai cosb yn cael ei rhoi.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn felly na fyddai cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater hwn yn gymesur nac er budd y cyhoedd.

Er gwaethaf hynny, argymhellodd yr Ombwdsmon yn gryf y dylai’r Aelod gael hyfforddiant i ddiweddaru’i wybodaeth am y Cod.