Cafodd yr Ombwdsmon hunanatgyfeiriad gan Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) ei fod wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Roedd yr hunanatgyfeiriad yn ymwneud â methiant i ddiweddaru Cofrestr Buddiannau’r Aelodau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymchwiliad yn briodol ac y dylid ystyried paragraff 15 o’r Cod.
Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi dod yn aelod o blaid wleidyddol. Yn dilyn hynny, aeth cyfnod o tua 7 mis heibio heb i’r Aelod ddiweddaru ei gofnodion ar y Gofrestr Buddiannau i ddatgan yr aelodaeth honno. Mae canllawiau’r Ombwdsmon ynghylch y Cod yn datgan yn glir bod yn rhaid i aelodau gofnodi unrhyw aelodaeth o blaid wleidyddol yn y Gofrestr Buddiannau. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, felly, fod methiant yr Aelod i ddiweddaru ei gofnodion ar y Gofrestr Buddiannau yn awgrymu ei fod wedi torri’r Cod.
Wrth ystyried a oedd angen atgyfeirio’r achos at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru er budd y cyhoedd, rhoddodd yr Ombwdsmon ystyriaeth i nifer o ffactorau a oedd yn ymwneud â budd y cyhoedd. Rhoddodd ystyriaeth i ymddygiad yr Aelod, a oedd wedi hunanatgyfeirio’r achos i swyddfa’r Ombwdsmon, yn ogystal â derbyn a chydnabod y camgymeriad yr oedd wedi’i wneud. Mae’r Aelod wedi ymddiheuro am ei weithredoedd ac wedi ymddiswyddo o’r Cabinet i gydnabod ei ymddygiad gwael. Cydweithredodd yr Aelod yn llawn â’r ymchwiliad. Er nad oedd yr Aelod wedi datgan ei fod yn aelod o blaid wleidyddol, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod hynny wedi cael effaith ar y penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet yn ystod y cyfnod pan na ddatganwyd yr aelodaeth.
Yn yr amgylchiadau hyn, o bwyso a mesur, ni theimlwyd y byddai atgyfeirio’r methiant a ganfuwyd i’r Pwyllgor Safonau er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, nid yw’r Ombwdsmon yn esgusodi ymddygiad yr Aelod. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn mai’r cam cymesur i’w gymryd oedd ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod gael hyfforddiant ynghylch y Cod, ac yn enwedig mewn perthynas â buddiannau personol a rhagfarnus a’i ddyletswydd i sicrhau bod ei fuddiannau’n cael eu cofnodi’n briodol ar Gofrestr Buddiannau’r Cyngor. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod yr Aelod yn cael hyfforddiant o’r fath o fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn.
O dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.