Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202405338

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn-Aelod wedi trin aelodau o staff y Cyngor ac aelodau o’r cyhoedd mewn ffordd amharchus ac mewn ffordd a oedd yn gyfystyr â bwlio.

Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 4(b) (parch ac ystyriaeth) a 4(c) (bwlio ac aflonyddu).  Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor.  Rhoddodd tystion dystiolaeth.  Rhoddodd yr Achwynydd dystiolaeth hefyd.

Ac ystyried amgylchiadau personol y Cyn-Aelod, o dan Adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai parhau â’r ymchwiliad er budd y cyhoedd.  Gan hynny, daeth yr ymchwiliad i ben.